Prynu

Mae Eiddo Susan Jones yn gwybod mai eich cartref mae’n debyg yw un o’r pethau mwyaf drud byddwch yn ei brynu.  Gyda ein harbenigedd a’n gwybodaeth o’r ardal rydym yn sicr y byddwn yn llwyddo i ddarganfod eiddo sy’n cwrdd â’ch hanghenion, p’unai yn symud traddodiadol neu’n fuddsoddiad ‘Prynu i Osod’.

I hwyluso y dasg o ddeall y broses o brynu eich cartref, dyma amlinelliad o rai o’r prif gamau:

 

 

COFRESTRU
Y cam cyntaf yw cofrestru eich manylion a gwybodaeth am y math o eiddo ydych yn chwilio amdano unai trwy ebost, galwad ffôn, neu trwy gwblhau ein ffurflen gofrestru.  Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o’ch anghenion unigol ac yn sicrhau fod unrhyw fanylion ydym yn ei yrru atoch yn berthnasol.

Wedi i chi gofrestru, rydych yn barod i dderbyn manylion gennym ni wyneb i wyneb, trwy’r post, ebost neu trwy lawrlwytho ac argraffu y rhain o’n gwefan.  Yn ogystal, rydym yn cynnig gwasanaeth neges destun SMS yn uniongyrchol i’ch ffôn symudol.

GWELD YR EIDDO
Rydym ar gael i drefnu yr ymweliadau hynny o eiddo eich dewis.  Wedi i chi gysylltu â ni, byddwn yn trefnu amser sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.

 

MORGAIS

 Os yn bosibl, rydym yn awgrymu eich bod wedi sicrhau cytundeb morgais ar egwyddor cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ar yr eiddo.  Bydd hyn yn hwyluso’r broses o brynu eich eiddo trwy roi arwydd clir i chi o’r hyn sy’n fforddiadwy.  Mae’r ffaith fod gennych forgais wedi ei drefnu ar egwyddor hefyd yn apelgar iawn i’r gwerthwyr.

 

GWNEUD EICH CYNNIG
Wedi i chi benderfynu ar eich eiddo delfrydol, byddwn yn cyflwyno eich cynnig i’r gwerthwr i’w ystyried.  Caiff hyn ei wneud ar lafar ac yn ysgrifenedig.

 

DS
Noder fod pob cynnig yn ‘amodol ar gytundeb’ ac felly ni fydd yr un o’r ddau ochr wedi eu rhwymo yn gyfreithiol hyd nes arwyddo y cytundeb.

CYNNIG WEDI EI DDERBYN/CYFARWYDDO Y CYFREITHWYR
Pan fydd y gwerthwr yn derbyn eich cynnig, byddwch yn cyfarwyddo eich cyfreithwr i weithredu ar eich rhan.  Eich cyfreithiwr fydd yn delio â holl ofynion cyfreithiol eich pryniant (trawgludiant eiddo).
Yn ogystal, bydd angen i chi symud ymlaen yn swyddogol gyda eich cais morgais a chyfarwyddo eich arbenigwr morgais yn unol â hynny.

AROLWG
Y cam nesaf ydi cael y Prîsiad Morgais, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.  Bydd hwn yn cael ei gynnal gan Syrfewr Siartredig sy’n gweithredu ar ran eich benthycwr.  Mae’r adroddiad yn darparu Prîsiad h.y. i benderfynu os ydi’r swm i’w logi yn ddiogel ac yn ogystal, i ymdrin â chyflwr sylfaenol yr eiddo.  Gan eich bod chi fel y prynwr yn derbyn copi, mae’n caniatau i’r ddwy ochr werthuso’r canfyddiadau cyn ymrwymo i brynu.

 

DS

Fodd bynnag, nid ydym yn cynghori i’r prynwr ddibynnu yn llwyr ar arolwg y Prîsiad Morgais gan fod yr archwiliad hwn yn gyfyngedig.  Er fod cost ychwanegol i chi gael eich adroddiad eich hun, bydd hwn yn fwy trylwyr ac fe allai hynny eich arbed rhag gwneud camgymeriad costus yn y pendraw.
Ceir dau fath o arolwg:

 

AROLWG PRYNWR/PRÎS - dyma’r dewis canol ffordd. Gan ei fod yn fwy costus na’r Prîsiad Morgais ond yn rhatch na’r Arolwg Adeilad.  Gwasanaeth sylfaenol ydyw ac yn fw addas felly i eiddo sy’n ymddangos i fod mewn cyflwr da ac wedi ei adeiliadu mewn fordd confensiynol.  Pwrpas yr arolwg ydi tynnu sylw at unrhyw ddiffygion amlwg a phroblemau a allai effeithio ar werth yr eiddo. Nôd yr Arolwg Prynwr ydi darparu adroddiad mwy manwl sy’n eich helpu i wneud y penderfyniad i brynu yr eiddo neu ddim.  Nôd arall yr arolwg yma yw barnu os yw’r cynnig yn adlewyrchu gwerth yr eiddo.  Ymhellach, bydd barn proffesiynol y syrfeiwr yn rhoi ystyriaeth yn yr adroddiad i nodweddion o’r eiddo a allai effeithio ar ei werth cyfredol neu ar botensial yr eiddo i werthu yn y dyfodol.

 

AROLWG ADEILAD - yn wahanol i’r Arolwg Prynwr, gall yr arolwg hwn fod yn addas i bob math o eiddo, yn gonfensiynol neu yn anghonfensiynol.  Cyfeiria y term ‘anghonfensiynol’ at eiddo gyda adeiliadwaith anghyffredin, eiddo o werth hanesyddol, Adeilad Restredig, adeilad sydd wedi ei newid yn helaeth neu fod cynlluniau ar y gweill i wneud gwaith helaeth ar yr adeilad.  Mae’r adroddiad hwn yn gynhwysfawr ac yn rhestru manylion technegol yr adeilad, y deunyddiau a’r cyflwr yn llawn.  Fodd bynnag, noder nad yw’n cynnwys prîsiad a chaiff ei gynnal ond trwy gytundeb o flaen llaw. 

CHWILIADAU
Cynhelir y rhain gan eich cyfreithiwr a fydd yn cyflwyno chwiliad i’r cyngor lleol.  Pwrpas hyn ydi canfod os oes unrhyw gynllunio wedi cael eu derbyn yn flaenorol ar yr eiddo neu os oes unrhyw faterion lleol allai effeithio ar y pryniant.  Mewn rhai achosion, fe allai gynnwys chwiliad Amgylcheddol a Charthffosiaeth.

CYTUNDEB DRAFFT
Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn llunio cytundeb ddrafft a’i gyrru i’ch cyfreithwr chi i’w hystyried.  Ymdrinir ag unrhyw ymholiadau neu gwestiynau cyn diwygio’r cytundeb.

CYNNIG MORGAIS
Bydd yr arolwg Prîsiad Morgais yn awr yn law y Benthycwr.  Yn amodol ar ganfyddiadau yr adroddiad yma, derbyn y cais morgais a chyn belled fod y geirda a’r gwiriadau yn dderbyniol, bydd y Benthycwr yn gyrru cynnig morgais ffurfiol i chi fel y prynwr a’ch cyfreithiwr.  Wedi arwyddo a dychwelyd y ddogfen, bydd eich cyfreithiwr yn gwneud cais am yr arian.

CYFNEWID CYTUNDEBAU
Wedi i chi a’r gwerthwr arwyddo y cytundeb bydd blaendal yn cael ei dalu trwy cyfreithiwr - fel arfer, canran fach o’r pris gwerthu fydd hyn.  Yna, byddwch yn cytuno ar ddyddiad cwblhau.

CWBLHAU
Gan amlaf, bydd y cwblhau yn digwydd ychydig o ddiwrnodau neu wythnosau yn dilyn cyfnewid y cytundebau.  Bydd eich cyfreithiwr yn trosglwyddo gweddill yr arian at gyfreithiwr y gwerthwr sy’n arwain at ryddhau y goriadau.  Llongyfarchiadau!  Rydych yn awr yn berchennog eich cartref newydd!