Gwerthu

Gall gwerthu eich cartref fod yn straen felly mae’n bwysig dewis asiant dibynadwy a fydd yn sicrhau fod y broses mor rhwydd a hwylus â phosibl.  Nôd Eiddo Susan Jones yw darparu gwasanaeth personol sydd yn ffitio eich anghenion unigol.

Gweler isod am ganllawiau defnyddiol sydd hefyd yn egluro rhai termau:

CAEL PRÎS

Os ydych yn gwerthu, byddwch angen syniad realistig o werth eich cartref.  Gellir pob amser profi y farchnad gyda prîs uwch, ond ein nôd yw rhoi prîs gonest i chi wedi ei sylfaenu ar wybodaeth drylwyr o ardal Gwynedd a thu hwnt.  Cefnogir hyn trwy ddefnyddio data o eiddo a werthwyd yn ddiweddar a thystiolaeth cymharol.  Mae Eiddo Susan Jones yn cynnig gwerthusiad i chi o werth marchnad gyfredol eich cartref a hynny yn rhad ac am ddim heb unrhyw rwymedigaeth.  Croeso i chi ffonio am gyngor ar 01758 614511 neu lenwi’r ffurflen prisiad.

 

 

PARATOI I WERTHU

Bydd y prîs gwerthu yn cael ei drafod a’i gytuno hefo chi pan ydych yn barod i werthu.  Byddwn yn sicrhau fod y manylion gwerthu yn tynnu sylw at agweddau holl bwysig eich eiddo ac yn sicrhau fod eich cartref yn cael ei gyflwyno ar ei orau wedd gyda chymorth ffotograffau.  Yn ogystal, gallwn gynnig gwasanaeth glanhau a llwyfannu eich cartref petai hynny o ddiddordeb i chi.  Ein rôl ni yw eich helpu i werthu eich eiddo am y prîs gorau phosibl.

Bydd eich eiddo angen ‘EPC’ sef tystysgrif perfformiad ynni - er fod rhai eithriadau e.e. adeiliadau rhestredig.

MARCHNATA

Caiff cynllun gweithredu a marchnata unigol ei greu a phan yn fodlon gyda ein manylion am eich eiddo mi fyddwch yn barod i dderbyn darpar brynwyr.  Bydd apwyntiadau i weld eich eiddo yn cael eu trefnu gennym a’u cytuno hefo chi.  Rydym yn argymell ein bod ni yn tywys darpar brynwyr o gwmpas eich cartref gan fod hyn wedi ei brofi i fod yn fuddiol, ond eich dewis chi fydd hyn.  Byddwn yn ymroi i gasglu adborth adeiladol yn dilyn pob ymweliad ac yn trafod hynny efo chi.

Mae pob eiddo yn unigryw ac yn haeddu cael ei drin felly, dyma pryd ddaw eich cynllun gweithredu/marchnata unigol yn fyw.  Dyma grynodeb o rai o’r dulliau marchnata yr ydym yn gynnig:

BWRDD AR WERTH - Dyma’r dull marchnata mwya’ syml ac effeithiol sydd ar gael 24 awr y dydd.

PRYNWYR TEBYGOL - byddwn yn rhannu manylion eich eiddo gyda prynwyr tebygol addas a hynny gan amlaf ar lafar neu trwy ebost/neges destun.

GWEFANNAU A’R CYFRYNGAU CYMDEITHASOL - Manteisia Eiddo Susan Jones ar amrywiol wefannau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol  i sicrhau fod eich eiddo yn cael ei hysbysebu yn briodol.

DIWEDDARU AR EICH GWERTHIANT

Byddwn yn cytuno hefo chi ar pa mor aml a thrwy pa gyfrwng yr ydych yn ei ffafrio i dderbyn diweddariad ar unrhyw gynnydd o ran gwerthu eich eiddo.  Enghraifft o’r math o wybodaeth a rennir hefo chi ydi; y mannau sy’n arddangos eich eiddo, nifer o ymwelwyr trwy’r wê, sawl gwerthwr tebygol newydd ychwanegol ac unrhyw wybodaeth perthnasol arall.

 

Mae Eiddo Susan Jones yn ymfalchio mewn rheoli gwerthiant mewn modd cydwybodol.  Ein nôd yw eich hysbysu am broses eich gwerthiant i’r pen olaf a chysylltu efo’r prynwr, y cynrychiolwyr cyfreithiol, y syrfewyr a’r benthycwyr morgais er mwyn sicrhau fod eich gwerthiant yn mynd mor ddi-lol â phosib.


 

CYNIGION 
Bydd unrhyw gynigion a dderbyniwn yn cael eu rhannu hefo chi yn brydlon ar lafar a’i gadarnhau’n ysgrifenedig.  Bydd pob prynwr tebygol yn cynnig prîs gwahanol i chi gan ddibynnu ar eu sefyllfa ariannol ac unrhyw gynlluniau sydd ganddynt ar gyfer yr eiddo.  Ein rôl ni yw cael y prîs gorau ganddynt i chi ei ystyried a byddwn yn cyslltu hefo chi hyd nes bydd cynnig wedi ei gytuno.


CYTUNDEB AR WERTHIANT 
Dyma pryd byddwn yn gofyn i chi pa gyfreithiwr ydych yn eu cyfarwyddo.  Byddwn yn fwy na hapus i argymell cwmniau lleol os ydych angen cymorth yma.

Byddwn yn rhoi cadarnhâd ysgrifenedig o’r holl wybodaeth perthnasol i chi, eich prynwr a chyfreithwyr y naill a’r llall.  Yna, bydd y cyfreithwyr yn ysgrifennu at pob parti a bydd y gwerthwr yn cyfarwyddo syrfeiwr i gynnal arolwg o’ch eiddo (mae’r ‘cytundeb ar werthiant’ yn amodol ar gontract ac unrhyw arolwg) a bydd cynnig morgais y gwerthwr (os yn ofynnol) hefyd yn amodol ar ganlyniadau yr arolwg.

Bydd cyfreithiwr y gwerthwr yn gofyn i chi fel y gwerthwr neu i’r benthycwr  am ‘title deeds’ (os yn berthnasol) a rhaid cwblhau y ffurflen fixtures and fittings.

Wedi cymeradwyo’r cytundebau drafft, bydd y gwerthwr a’r prynwr yn eu harwyddo.

CYFNEWID CYTUNDEBAU - Cyn belled â bod y cynnig morgais wedi ei dderbyn ac arian wedi clirio gyda cyfreithwr y prynwr, yna gellir cytuno ar ddyddiad sydd yn hwylus i’r naill a’r llall er mwyn cyfnewid cytundebau.

CWBLHAU - gall y cwblhau a’r symud gymryd rhwng 7 a 28 diwrnod gan ddibynnu ar y gwerthwr, y prynwr a’r cyfreithwyr priodol.

 

Yn Eiddo Susan Jones rydym yn ymfalchio mewn rheoli gwerthiant a chyfathrebu cydwybodol.  Mae cyfathrebu effeithiol a datrys problemau yn allweddol; byddwn yn cysylltu hefo chi, eich prynwr, y cynrychiolwyr cyfreithiol, syrfewyr a’r benthycwyr/ymgynhorwyr morgais i sicrhau fod eich gwerthiant yn symud ymlaen mor rhwydd a di-straen â phosibl. Byddwn hefo chi o gychwyn y siwrna hyd ei phen.